Stablau Dowlais

Mae stablau Dowlais yn heneb o’r oes ddiwydiannol gynnar. Fe’u hadeiladwyd ym 1820 ar gyfer y ceffylau halio a lafuriai yn y gwaith haearn. Wedi’r mecaneiddio ar ddiwedd y 19eg ganrif, darfu defnydd y ceffylau, ac erbyn y 1930au caewyd y gwaith haearn. Dadfeiliodd y stablau dros ganrif o edwino.

Roedd angen adfer ac adnewyddu’r wyneb, y brif fynedfa a’r ddau bafiliwn pen, ac ailddefnyddio’r adeiladwaith. Mae’r adeilad yn darparu cartrefi ac yn gwneud cyfraniad nodedig i adferiad trefol yn Nowlais.

Wedi gwaith i sefydlogi a chyfnerthu’r adfeilion dan gyfarwyddyd yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth leol, atgyweiriwyd yr wyneb, y brif fynedfa, y porth a’r ddau bafiliwn ar yr esgyll. Dyluniwyd 16 fflat ar gyfer yr henoed, i’w gosod y tu ôl i’r wyneb. Mae cynllun a thrawstoriad y fflatiau yn ffitio i gynllun llawr a phroffil y stablau gwreiddiol. Ceir mynediad i’r llawr cyntaf o ddec allanol sy’n ymestyn hyd cefn y ddwy asgell o’r porth. Gan na allai’r wyneb gynnal pwysau ychwanegol, mae’r to a’r holl elfennau newydd eraill yn cael eu cynnal yn annibynnol.

Cyllidwyd y cywaith cyfan ar y cyd gan sawl asiantaeth, gyda chyfraniadau, cydweithrediad a chymorth gan y Gorfforaeth Dai, cyrff cadwraeth, llywodraeth leol a’r Asiantaeth Ddatblygu.