Canolfan y Wallich, Caerdydd

Cynllun i adfywio hen adeilad rhestredig segur; cyn eglwys Bresbyteraidd, sydd yn dirnod amlwg yng Nghaerdydd, i gynnwys swyddfa ganolog i elusen ynghyd â chanolfan gynadledda.

Nodwedd drawiadol y tu mewn oedd y gofod, yn llydan a chlir, gyda nenfwd cromennog. Lle roedd cyflwr yr adeilad yn caniatáu hynny, gadawyd ei naws hynafol heb adnewyddu arwynebol. Sianelwyd y cyllid tuag at gyflenwi adnodd deniadol y tu mewn.

Roedd angen cynyddu arwynebedd y llawr i dair gwaith yr ôl troed, a gwnaethpwyd hynny ar ffurf strwythur mezzanine annibynnol pedwar llawr – cibyn – a chysylltiadau ysgafn gyda’r hen adeiladwaith, fel bod modd gwahaniaethu rhwng yr hen a’r newydd.

Ar y ddau lawr mezzanine uchaf, mae swyddfeydd cynllun agored yn amgylchynu swyddfeydd cellog. Mae’r uned gynadledda wedi ei hamgáu oddi mewn i fôn y cibyn ar y gwastadlawr. Dylanwadodd y nenfwd cromennog ar ddyluniad y cibyn. Mae’r cynllun yn deillio o elips. Mewn trawstoriad mae iddo gromlin yn gogwyddo tua’r llawr. Mae’r nodwedd hon yn ehangu lled y cyntedd amgylchynol, ac yn rhoi mwy o le rhwng y cibyn a chromlin y nenfwd uwchlaw. Defnyddir y gofod a’r strwythur i’r eithaf, a thrwy hynny gellir gwerthfawrogi’r adeilad gwreiddiol.