Llanilltud Faerdref

Cartref gofal gyda 60 llofft ynghyd ag uned adwerthu bwyd. Mae’r cartref yn cymryd lle gwesty a thafarn oedd ar y safle.

Mae’r safle mewn man sydd wedi ei benodi dan bolisi cynllunio fel Lletem Las, gyda’r nod o ddiogelu tir gwledig ac i ddiffinio terfynau datblygu. Er bod y cynllun arfaethedig yn gynnydd o dros dair gwaith arwynebedd llawr yr adeiladwaith ar y safle, oherwydd ei ddyluniad a’i ymateb i’r safle, llaciodd yr awdurdod lleol eu tuedd i wrthwynebu ailddatblygu. Mae cynnydd hefyd yn yr arwynebedd sydd wedi ei dirlunio ar gyfer mwynderau‘r cyhoedd.

Mae’r safle ar wastadedd annaturiol, â chloddiau serth ar hyd dau derfyn. Yn y dyluniad dychwelir y tir i’w broffil naturiol, gan ennill llawr ychwanegol ar y gwastad isaf. Mae’r cynllun a’r trawstoriad wedi ei addasu i ymateb i agweddau afreolaidd y safle. Mae’r brif fynedfa a’r ffreutur yn sefyll y tu allan i ffurf hirsgwar esgyll y llofftydd, yn ffurfiau mwy rhydd. Mae hyn, ffurfiau dychmygus y toeon a’r amrywiaeth ym mhatrymau gosodiad y ffenestri, yn lleihau’r argraff o faint yr adeilad.

Mae’r rhan fwyaf o’r llofftydd, a’r prif ystafelloedd cymunedol, yn wynebu’r de neu’r gorllewin, i wneud yn fawr o’r olygfa wledig eang.