Cynaladwyedd

Mae diogelu’r amgylchedd yn greiddiol i’n hymagwedd ni tuag at ddylunio pensaernïol.

Drwy ddadansoddi anghenion ein cleient a chyd-destun y safle, byddwn yn ymdrechu i gynhyrchu datrysiad dylunio sy’n manteisio i’r eithaf ar briodoleddau amgylcheddol goddefol yr adeilad arfaethedig.

Yn gynnar yn y broses ddylunio, byddwn yn cyd-drafod â chleientiaid a chytuno ar dargedau amgylcheddol penodol ar gyfer y cywaith.

Byddwn yn hyrwyddo dulliau sy’n defnyddio technoleg werdd i’n cleientiaid. Byddwn yn dilyn datblygiadau a newidiadau mewn materion amgylcheddol yn ofalus, ac yn defnyddio dulliau adeiladu dyfeisgar, a thechnolegau a defnyddiau arloesol. Drwy gyfuno hynny â’r wybodaeth fanwl ac eang a ddygwn i bob cywaith, anelwn at lunio’r datrysiad gorau ar gyfer y cleient a’r amgylchedd fel ei gilydd.

Rydym yn gweithio ar y cyd â pheirianwyr amgylcheddol a pheirianwyr gwasanaethau, ac yn eu hannog i ymwneud â’r cyweithiau mor gynnar â phosib, er mwyn cytuno ar fanylion dylunio a thechnolegol. Wedi trosglwyddo’r adeilad i’r cleient, byddwn hefyd yn parhau i drafod â’r defnyddwyr a gweithwyr proffesiynol eraill, i gael eu hadborth, er mwyn casglu gwybodaeth ac ehangu’n profiad. Byddwn yn defnyddio’r adborth hwn, ac yn cofnodi data allweddol fesul cywaith, er mwyn parhau yn ein hamcan o wella effeithlonrwydd amgylcheddol yr adeiladau a ddylunnir gennym.