Canolfan Blant, Penybont-ar-Ogwr

Adeilad yn ymateb i ofynion a osodwyd gan grŵp o rieni plant anabl, a gafodd eu noddi a’u cynghori gan Scope, yr elusen sy’n darparu ar gyfer pobl anabl.

Dyluniwyd yr adeilad fel canolfan i gyflenwi rhai anghenion clinigol a gwasanaethau cefnogi i blant ag anableddau corfforol, ac i ddarparu man cyfarfod i’w teuluoedd.

Mae i’r cynllun ystafelloedd ar gyfer ffisiotherapi, therapi iaith a lleferydd a therapi galwedigaethol, yn ogystal ag ystafelloedd asesu ac ymgynghori, ystafell chwarae, swyddfeydd ar gyfer gweithwyr iechyd a mannau cyfarfod ar gyfer rhieni a theuluoedd.

Mae’r dyluniad yn creu adeilad o raddfa addas i blant, mewn amgylchedd ddiogel. Rhennir yr adeilad yn barthau eglur, gyda chyntedd yn amgylchynu gardd ganolog gaeëdig, sy’n bwynt cyswllt i ymwelwyr. Gan fod muriau gwydr i’r cyntedd o gwmpas yr ardd, gellir goruchwylio symudiadau ymwelwyr o’r dderbynfa.