Cannon Close, Bridgwater

Ugain o fflatiau un llofft i drigolion ag anghenion cyffredinol.

Roedd siâp afreolaidd i’r safle, oedd felly yn galw am gynllun amgenach nag un ag onglau sgwâr arferol. Oherwydd tai ac ysgol gyfagos roedd gofyn hefyd am gynllun â’i olygon tuag at i mewn.

Mae’r dyluniad o ddwy asgell anhafal eu hyd, ar ddau lawr ac yn codi i dri llawr. Mae ystafelloedd annedd y fflatiau oll yn wynebu i mewn tua’r cwrt trionglog. Yn y man rhwng y ddwy asgell mae’r grisiau, yn amgaeëdig mewn tŵr siâp ŵy, sy’n mynegi eu swyddogaeth fel colyn i’r cyfanwaith. Mae’r cynteddau sy’n pontio rhwng y grisiau a’r esgyll wedi eu hamgáu mewn gwydr a phanelau pren. Mae’r amlen hon, ynghyd â gorffeniad y tŵr mewn rendr golau fel cyferbyniad i’r esgyll o waith bric, yn rhoi ffurf ac eglurdeb i’r adeiladwaith.

Nodwedd y drychiadau tua’r cwrt mewnol yw’r ffenestri mawr sy’n ymestyn at y llawr yn y lolfeydd a’r llofftydd. Mae’r bondo isel a’r ffenestri aeliog ar y trydydd llawr yn cyfyngu ar uchder yr adeilad, ac yn cydweddu ag adeiladau o’r ddeunawfed ganrif yn y strydoedd cyfagos.