Heol Clare Caerdydd

Adeiladau newydd, defnydd cymysg, ar brif ffordd i mewn i canol Gaerdydd.

Mae’r datblygiad yn cynnwys uned werthu bwyd sy’n fil o fedrau sgwâr, a dau lawr o fflatiau uwchben.

Mae drychiad y stryd yn barhad o’r rhes o boptu, gyda wyneb, llinell bondo, arwyneb a chrib y to oll yn cyfunioni. Mae’n ymddangos fel adeilad deulawr yn camu i dri llawr yn y rhan ganol. Mae blociau trillawr tebyg i’w gweld o dro i dro ar hyd y stryd. Fodd bynnag, mae’r adeilad cyfan ar dri llawr, gyda fflatiau oddi mewn i wagle’r to ble mae hwnnw yn is.

Mae’r wyneb yn ddehongliad mwy syml a chyfoes o wynebau Fictoraidd cyfagos, yn gyson o ran graddfa a chymesuredd ei elfennau, a’i wead.

Y tu ôl i’r fflatiau mae to’r siop fwyd yn creu dec mynediad a llecyn amwynder. Y tu hwnt i hwnnw, mae to gwastad y siop a ffenestri aeliog yma ac acw yn creu ffurfiau lluniaidd.

Bwriad y dyluniad yw trwsio’r treflun toredig gydag adeilad sydd yn ddeniadol, yn adfywio ardal, yn hyfyw yn fasnachol, ac yn gost effeithiol.