Mae Llwynau yn hen dŷ fferm deulawr rhestredig, o’r canol oesoedd hwyr, ac yn nodweddiadol o’r rhai adeiladwyd yn Eryri tua diwedd yr 17eg ganrif. Prif nodweddion y tŷ yw’r simneiau tal ar y talcenni, cynllun llawr tair uned gyda thraws-gyntedd canolog, parlwr mawr ar un pen a phâr o ystafelloedd llai y pen arall, wedi eu gwahanu gan barwydydd derw.
Mae’r perchnogion wedi adfer yr adeilad fel tŷ annedd. Cyn hynny bu’r llawr uchaf yn daflod wair.
Gwnaethpwyd gwelliannau gam wrth gam dros gyfnod, gan gynnwys ailadeiladu estyniad cefn yn lle un adfeiliedig i greu ystafelloedd, ail doi, ail raddio tir ac adeiladu waliau cerrig sychion o gwmpas y tŷ. Yn y lluniau dangosir y tŷ ar ôl y cam cyntaf, wedi adeiladu’r estyniad cefn.
Mae’r estyniad yn cynnwys neuadd/ystafell fwyta, ymolchfa fach a golchdy modern. Ceir golygfa eang o fynyddoedd Eryri drwy ffenestri cornel yr ystafell fwyta.
Yn ffodus, goroesodd y rhan fwyaf o’r parwydydd derw, ac adnewyddwyd darnau coll â derw o goetir lleol. Arbedwyd cerrig a llechi llawr o’r safle ar gyfer waliau, y lloriau tu mewn a’r pafin tu allan.