Canolfan gofal iechyd arbennig ar gyfer adferiad niwrolegol, sy’n darparu ystod o wasanaethau cleifion mewnol i unigolion â chyflyrau niwrolegol, a thrigfeydd tymor hir ar gyfer deunaw o bobl.
Lleolir yr adeilad oddi mewn i ardd furiog a chysgodol hen blasty, sydd yn rhan o ardal gadwraeth St. Leonards yng Nghaerwysg.
Mae pob un o’r anheddau unigol yn cynnwys llofft breifat, lolfa, cegin fechan ac ystafell gawod â llawr gwastad. Dyluniwyd yr unedau i annog y cleifion i fod yn annibynnol ac i hwyluso’r broses o asesu eu hanghenion, er mwyn llunio eu rhaglenni personol ar gyfer ailsefydlu yn y gymuned.
Ceir darpariaeth ar gyfer ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, therapyddion iaith a lleferydd, seicolegwyr clinigol a nyrsus arbenigol yn ogystal â niwrolegwyr.
Mae’r cyfleusterau therapi a’r ystafelloedd cymunedol, yn cynnwys y ffreutur a’r lolfa, yng nghanol yr adeilad. Lleolir yr unedau byw mewn grwpiau o bedwar neu chwech o gwmpas mannau cwrdd eang, sy’n cael eu goleuo gan luserni to. Mae cylchrediad drwy’r adeilad drwy gyfres o gynteddau llydan a’r mannau cwrdd hyn, sydd wedi eu goleuo a‘u hawyru yn naturiol.