Ailwampio ac ymestyn cartref nyrsio sy’n darparu ar gyfer pobl ag anabledd corfforol. Plasty Edwardaidd oedd y cartref yn wreiddiol, mewn ardal gadwraeth ar glogwyni â golygfa dros Fôr Udd. Roedd galw am aildrefnu ac ailfodelu’r adeiladwaith presennol, gan ddiddymu ychwanegiadau blaenorol diangen, a godwyd yn ystod 50 mlynedd o’i ddefnydd fel cartref nyrsio. Cafodd gweddill yr adeilad (tua 2400m sg) ei adnewyddu’n llwyr. Ailgynlluniwyd y llofftydd i gynnwys ymolchfeydd en-suite. Adnewyddwyd manylion addurniadol Edwardaidd gwreiddiol y plasty. Darperir llofftydd ychwanegol, ffreutur, cegin, swyddfeydd gweinyddu, ystafell haul a theras haul mewn dwy asgell newydd: un bedwarllawr i’r dwyrain ac un ddeulawr i’r gorllewin.
Mae’r adeiladwaith newydd yn gwneud yn fawr o’r olygfa ddeheuol tua’r môr. Mae lloriau’r esgyll newydd yn gyson â rhai’r plasty, gyda piano nobile tal ar yr asgell ddwyreiniol. Yno mae’r ffreutur, ag iddi ffenestri o lawn lled ac uchder yr ystafell, yn rhoi golygfa banoramig tua’r môr. Mae manylion allanol a defnyddiau’r adeiladwaith newydd yn gyson eu naws â rhai’r plasty gwreiddiol.
Rhannwyd y rhaglen adeiladu yn bum rhan i ganiatáu defnyddio 75% o’r adeilad trwy gydol cyfnod y gwaith.