Dyluniad i drawsnewid plasty gwag o’r 18fed ganrif yn westy gwledig gyda bwyty mewn estyniad unllawr.
Roedd hon yn un elfen o gynllun ehangach a baratowyd ar gyfer stad wledig fechan yn cynnwys dau blasty ac adeiladau fferm segur, mewn parcdir wedi’i dirlunio ar lan y Fenai.
Roedd apêl y plasty yn ei gynllun cynnil, ei ffurf eglur o’r tu blaen, gyda tho pig a simnai ganolog, a chymesuredd a symlrwydd y nodweddion a feddai o gyfnod y rhaglywiaeth.
Mae adeilad y bwyty wedi ei osod gam oddi wrth y tŷ gwreiddiol, ac wedi ei gysylltu ag ef drwy gyntedd cyswllt isel, a’i wynebu â thywodfaen gwahanol. Drwy hyn, mae ffurf gwreiddiol ac urddas y tŷ yn parhau yn amlwg, a’r bwyty’n ymddangos fel pafiliwn – ei faint, ei ffurf a’i gymesuredd yn gweddu â’r tŷ.
Mae’r ffenestr lusern ar hyd crib to’r bwyty a’r feranda o’i gwmpas yn ysgafnu golwg y pafiliwn. Mae’r feranda yn rhoi cysgod rhag y tywydd a’r haul i’r drysau gwydr helaeth, sy’n cynnig golygfeydd dros y parcdir ac i lawr tua’r Fenai.