Roedd y safle yn cynnwys buarth fferm yn dadfeilio, yn dyddio o’r 18fed a’r 19eg ganrif, wedi eu lleoli o fewn cwrtil tŷ rhestredig. O’r herwydd roedd angen caniatâd Adeilad Rhestredig i’w adnewyddu.
Paratowyd dyluniadau ar gyfer dau opsiwn, un â thŷ unigol ac un â dau dŷ; y ddau ddyluniad yn manteisio ar leoliad uchel y safle, talwyneb llydan yr adeilad, a’r golygfeydd godidog. Dymchwelwyd ychwanegiadau mwy diweddar, gan gadw’r adeiladau cynharach, mwy dilys. Roedd canllawiau’r awdurdod cynllunio yn caniatáu gosod ffenestri a drysau yn yr agoriadau a fodolai yn unig, neu lle roedd olion agoriadau blaenorol ar ddrychiad blaen yr adeiladwaith.
Mae adeiladwaith newydd yn cysylltu’r hen adeiladau: rhai unllawr, â thoeau isel, gyda wyneb o estyll coed, ynghyd â manylion cyfoes a defnydd helaeth o wydr, i greu cyferbyniad.
Mae’r cynllun mewnol yn adfer ac yn amlygu’r strwythur to gwreiddiol. Lle safai’r llawr dyrnu, ceir neuadd ddeulawr drawiadol, sydd yn ffurfio llewen i’r tŷ.
Llenwir adwy’r drol â gwydr i wneud y gorau o’r olygfa. Rhoddwyd ffenestri to yn y wyneb cefn, ac agennau ar ymyl y llawr cyntaf oddi tanynt, fel bod golau cyson gyfnewidiol y dydd yn llifo i mewn i gefn yr adeilad.