Mae’r adeilad ar safle hen weithdy bysus wedi adfeilio, ar gyrion ardal gadwraeth tref Bridgwater. Ceir ynddo 16 o fflatiau dau berson, un llofft, ar gyfer Cymdeithas Dai leol. Roedd dichonoldeb y datblygiad yn dibynnu ar lwyddo i gynnwys pedwar llawr o fflatiau, tra bo’r adeiladau cyfagos â thri llawr.
Mae ffurf ac amlinell y to yn dilyn yr adeilad gerllaw, gyda dau ogwydd iddo, yn nodweddiadol o adeiladau dechrau’r ddeunawfed ganrif yn y dref. Drwy saernïo’r to yn ôl dull traddodiadol, mae’r ffurf hon yn caniatáu lle i gynnwys y pedwerydd llawr. Mae’r pedwar llawr (gan ddefnyddio llinyn mesur modern uchder safonol nenfydau) gyfuwch â’r adeilad tri llawr gerllaw.
Er mwyn torri ar y drychiad plaen, defnyddiwyd nodweddion tebyg i adeilad cyfagos y Blake Arms. Mae patrwm ac uchder yr agoriadau yn cadw graddfa a chymesuredd drychiad yr adeiladau cyfagos, heb amlygu bodolaeth y llawr ychwanegol. Mae maint a ffurf y ffenestri, y dewis o ddefnyddiau, a’r manylion, yn creu adeilad sy’n sefyll yn rhwydd yng nghyd-destun yr adeiladau hynafol o’i gylch, ac yn gwella’r gwead trefol, ar gyllid cynnil cymdeithas dai.