Ad-drefnu ac atgyweirio hostel o’r 1970au i drigolion ag anabledd corfforol sy’n ddefnyddwyr cadair olwyn.
Roedd naws gorthrymol a chyfundrefnol iddi. Crëwyd adeilad cwbl wahanol ei olwg, yn darparu anheddau sy’n annog y trigolion i fyw yn fwy annibynnol, gydag urddas, ac i ymdoddi’n well i’w cymuned.
Roedd angen i’r trigolion barhau i fyw ar y safle drwy’r cyfnod adeiladu, a ddylanwadodd ar y cynllun a’r modd o’i wireddu. Rhannwyd y rhaglen adeiladu yn bedair rhan, fel bod modd byw yn 75 y cant o’r adeilad ar unrhyw adeg.
Mae’r gwaith i gyd oddi mewn i ôl troed yr adeilad gwreiddiol ac yn darparu 21 fflat fechan, pob un â llofft/lolfa, cegin fechan â ffitiadau o uchder hyblyg, ymolchfa â llawr gwastad a storfa cadair olwyn. Mae gan bob uned ddrws gwydr â throthwy gwastad i’r ardd.
Gweddnewidiwyd y mannau cymunedol. Codwyd to un gogwydd uwchben y coridorau, i ganiatáu llif o olau dydd ac awyr iach. Roedd y manylyn hwn yn creu llwybr i’r prif wasanaethau o gwmpas yr adeilad, ac yn hwyluso rhaglen gyfnodol yr adeiladu. Codwyd to a nenfwd y ffreutur yn ogystal, gan lunio man cyfarfod canolog ac eang ar gyfer cymuned y trigolion.