Mae gan Latter Davies brofiad helaeth o ddylunio tai i bobl ag anabledd corfforol yn ôl safonau gofod defnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae llawer o’r cyweithiau yn gyfuniad o anheddau anghenion arbennig ac anheddau anghenion cyffredinol.
Cwblhawyd adeiladau ledled de Cymru a de Lloegr, yn cynnwys Caerdydd, Bryste, Thornbury, Weston Super Mare, Taunton, Wellington, Bridgwater, Southampton, Edgware, Ruislip, Chelmsford, Braintree, Rochford a Norwich.
Ymysg ein cleientiaid bu’r elusennau canlynol sydd yn darparu ar gyfer pobl anabl: John Grooms Housing Association, John Grooms Association for Disabled People, Scope, Disabled Living Foundation, Leonard Cheshire Foundation, The Winged Fellowship, a sawl cymdeithas dai sy’n darparu tai i bobl ag anabledd fel rhan o’u cenhadaeth ehangach, gan gynnwys: Cymdeithas Tai Cadwyn, Cymdeithas dai Raglan Housing, Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd, a Chymdeithas Tai Hafod.
Dangosir delweddau yma o gyweithiau yn Edgeware, Ruislip a Chelmsford.