Roedd y safle yn cynnwys dwy fila, y ddwy yn wreiddiol yn ddau dŷ trefol nobl. Mae’r stryd mewn ardal gadwraeth, ble mae’r parau o dai, a adeiladwyd rhwng 1860 a 1900, oll yn gwahaniaethu o ran ffurf a manylion, ac yn enghreifftiau cain o dai’r cyfnod yn y ddinas; fe’i defnyddid oll fel hostel.
Mae’r dyluniad ar gyfer adeilad newydd yn cynnwys 34 fflat hunangynhwysol; rhai ag un llofft a rhai â dwy lofft. Maent ar bedwar llawr, gan gynnwys yr islawr. Mae lefelau’r lloriau yn gyson â’r rhai gwreiddiol, felly hefyd amlinell yr adeilad. Cedwir arwahanrwydd y ddwy fila, drwy gyfyngu uchder cyswllt canolog y brif fynedfa i’r gwastadlawr yn unig. Ar bob llawr mae cyntedd llydan ar draws canol y ddwy fila, gyda grisiau canolog yn creu oriel.
Mae wynebau stucco gwyn y ddwy fila a’u helfennau yn gyflun o’r ddwy fila wreiddiol. Mae hyn, a ffurf y toeau llechi, yn cydymffurfio â gofynion llym y canllawiau cadwraeth. Mae toeau eraill ar y bloc cyswllt ac ar yr asgell gefn ar oleddf isel, ac o gopr gwyrdd. Mae paneli o’r un defnydd mewn mannau dethol ar wyneb cefn yr adeilad.