Cywaith i gyfuno darpariaeth o anheddau byw annibynnol mewn fflatiau hunangynhwysol, ar ffurf adeilad lloeren newydd i hostel gysgodol ar safle cyfagos. Adnewyddwyd yr hostel i gydymffurfio â’r safonau gofal cyfredol. Cynlluniwyd y fflatiau â safonau gofod a chyfarpar addasadwy sy’n cyfateb i’r hyn a geir yn yr hostel.
Mae’r fflatiau yn gam ymlaen i’r rhai hynny sydd yn dymuno cael mwy o annibyniaeth ac ymwneud â’r gymuned nag sydd i’w gael yn yr hostel.
Gan ei fod ar bwys yr hostel, mae’r adeilad newydd yn asio o ran graddfa a gwedd â hi, ond ar yr un pryd mae’n fynegiant o ddyhead y trigolion am fwy o annibyniaeth.
Ddeilliodd y cywaith o gydweithrediad rhwng Cymdeithas Dai John Grooms, oedd yn darparu tai i rai ag anabledd corfforol ledled y Deyrnas Unedig, a chyngor Dinas Bryste.