{"id":877,"date":"2020-08-21T14:22:19","date_gmt":"2020-08-21T14:22:19","guid":{"rendered":"https:\/\/latterdavies.co.uk\/?page_id=877"},"modified":"2020-08-26T14:16:07","modified_gmt":"2020-08-26T14:16:07","slug":"proffil","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/latterdavies.co.uk\/?page_id=877&lang=cy","title":{"rendered":"Proffil"},"content":{"rendered":"<p>Lleolir ein practis yng Nghaerdydd; fe\u2019i sefydlwyd ym 1985 a\u2019i ailenwi yn Latter Davies yn 2004.<\/p>\n<p>Mae gennym brofiad helaeth a chydnabyddedig o ystod eang o wahanol fathau o adeiladau a chyweithiau o amrywiol feintiau, a hynny dros ardal helaeth o\u2019r DG.<\/p>\n<p>Ein nod yw darparu gwasanaeth proffesiynol dychmygus, sy\u2019n ymateb i anghenion a dyheadau pob cleient, waeth beth yw maint neu gymhlethdod y cywaith, ac i greu dyluniadau sydd y tu hwnt i ddisgwyliadau\u2019r cleient. Ein hamcan yw creu datrysiadau cain ac adeiladau ymarferol, effeithlon.<\/p>\n<p>Drwy ddadansoddi anghenion y cleient ac amgylchedd y safle yn fanwl a thrwyadl, ymdrechwn i greu adeiladau sy\u2019n cynnig ymateb meddylgar a phenodol. Y nod yw i\u2019r broses fod yn ysbrydoliaeth i\u2019r cleient, ac i\u2019r cynnyrch terfynol fod yn ysbrydoliaeth i\u2019w ddefnyddwyr.<\/p>\n<p>Ymdrechwn i ddylunio datrysiadau sy\u2019n gynaliadwy o ran yr amgylchedd ac yn ariannol.<\/p>\n<p>Rydym yn cynnig gwasanaeth ymgynghori, yn darparu cyngor ar ddatblygu ac adfywio. Darparwyd y gwasanaeth pensaern\u00efol cyflawn gennym ar gyfer gwireddu\u2019r rhan fwyaf o\u2019r cyweithiau sydd wedi eu hadeiladu.<\/p>\n<p>Rydym wedi gweithio gyda llawer o wahanol gleientiaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat, elusennol a chorfforaethol, gan greu datrysiadau gwahanol iawn i\u2019w gilydd. Mae\u2019n hadeiladau yn gwasanaethu<br \/>\nanghenion pobl: unigolion, mudiadau, cyfundrefnau a chymunedau. Mae amrywiaeth ein hymateb yn ddathliad o bob cleient unigryw, ac o amrywiaeth yr anghenion a\u2019r dyheadau a gyflwynant inni.<\/p>\n<p>Mae gennym brofiad eang ym maes addasu ac adnewyddu adeiladau hanesyddol a rhai rhestredig, gan roi bywyd newydd a defnyddiol iddynt. Mae ein gwaith dylunio yn arddangos ein dealltwriaeth o\u2019r cyddestun hanesyddol a\u2019n parch tuag ato, gan ddehongli hyn mewn modd cyfoes ac ailddarganfod defnydd blaengar i\u2019r adeiladau.<\/p>\n<p>Mae ein gwaith yn y sectorau gofal iechyd ac anghenion arbennig yn cynnwys sawl cywaith adnewyddu ac aildrefnu adeiladau tra bo\u2019r preswylwyr yn parhau i fyw ynddynt. Mae\u2019r dulliau dylunio, manylebu a gweinyddu cytundebol manwl y mae cyweithiau o\u2019r fath yn eu hawlio yn arwydd o\u2019r ddisgyblaeth yr ydym yn ymfalch\u00efo ynddi yn ein gwaith drwyddo draw.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Lleolir ein practis yng Nghaerdydd; fe\u2019i sefydlwyd ym 1985 a\u2019i ailenwi yn Latter Davies yn 2004. Mae gennym brofiad helaeth a chydnabyddedig o ystod eang o wahanol fathau o adeiladau a chyweithiau o amrywiol feintiau, a hynny dros ardal helaeth o\u2019r DG. Ein nod yw darparu gwasanaeth proffesiynol dychmygus, sy\u2019n ymateb i anghenion a dyheadau pob cleient, waeth beth yw<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":785,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"profile_template.php","meta":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/latterdavies.co.uk\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/877"}],"collection":[{"href":"https:\/\/latterdavies.co.uk\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/latterdavies.co.uk\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/latterdavies.co.uk\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/latterdavies.co.uk\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=877"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/latterdavies.co.uk\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/877\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1121,"href":"https:\/\/latterdavies.co.uk\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/877\/revisions\/1121"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/latterdavies.co.uk\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/785"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/latterdavies.co.uk\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=877"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}