Lyngford Farm, Taunton

Addasu casgliad o adeiladau fferm rhestredig, bellach wedi eu hamgylchynu gan gyrion maestrefol Taunton, i ddarparu tair annedd i bobl ag anabledd corfforol.

Mae’r tair annedd wedi eu dylunio yn ôl safonau gofod cadeiriau olwyn, gyda chelfi a ffitiadau cegin ac ymolchfeydd o uchder hyblyg, a chawodydd â llawr gwastad.

Mae’r dyluniad yn defnyddio amlen yr adeiladau gwreiddiol, ac atgyweiriwyd yr adeiladwaith â defnyddiau a manylion sy’n cydweddu. Cyfyngwyd newidiadau yn ffurf yr adeilad i ychwanegiad un estyniad bach unllawr fel derbynfa i’r ysgubor deulawr. Wynebwyd hwn ag estyll coed i gyfeiriad y buarth, a defnyddiwyd yr hen wal derfyn uchel fel ei wal allanol.

Dylanwadwyd ar y cynllun mewnol i raddau helaeth gan leoliad agoriadau drysau a ffenestri a fodolai eisoes. Cafodd pob agoriad hanesyddol yn yr wyneb ei gadw. Roedd rheolaeth lem ar osod ffenestri ychwanegol oherwydd statws cofrestredig y safle.

Mae’r buarth wedi ei dirlunio, gyda gerddi cysgodol wedi eu hamgáu gan hen waliau, sy’n cysylltu’r adeiladau. Crëwyd man amwynder tawel; hafan ddiogel a deniadol i’r trigolion.