Yr Hen Gapel, Llyswerni

Estyniad deulawr ac addasiadau i adeilad rhestredig Gradd II; hen gapel anghydffurfiol o’r 18fed ganrif, i greu tŷ teulu pedair llofft.

Saif yr adeilad mewn pant dwfn, un llawr cyfan yn is na lefel y ddaear ar hyd cefn ac un ochr i’r safle.

Oherwydd yr ystyriaeth ofalus a roddwyd i’r cyd-destun a phroffil y tir, cafodd gwrthwynebiad gwreiddiol yr awdurdod cynllunio i estyniad deulawr ei dynnu’n ôl. Cafodd holl nodweddion defnydd yr adeilad gwreiddiol fel capel eu gwarchod; eto mae’r estyniad yn gyfoes o ran ffurf a manylion, ac fe’i derbyniwyd yn ffafriol gan yr awdurdod cynllunio a’r Gymdeithas Henebion.

Mae’r estyniad yn llenwi’r pant y tu ôl a chydag ochr yr adeilad gwreiddiol, gyda chynllun ffurf y clawdd pridd tua’r cefn yn cael ei adlewyrchu yn ongl y cynllun ar ei flaen, gan ffurfio cynllun petryal ar ogwydd. Mae ongl yr wyneb newydd a’r cysylltiad â’r hen gapel gam yn ôl, yn pwysleisio arwahanrwydd yr hen a’r newydd. Ategir hyn yn y defnyddiau a’r manylion. Mae prif linell y to o dan fondo’r hen adeilad. Mae’r estheteg yn un o adeiladwaith ysgafn, gyda llawer o wydr a brise soleil o bren caled.