Ymdrechwn i gyfuno’r ymarfer amgylcheddol gorau â phob agwedd o’n gweithgaredd yn y swyddfa, yn ein gwasanaethau proffesiynol a’r adeiladau a ddylunnir gennym.
Cydnabyddwn ein dyletswydd i leihau effaith yr adeiladau a ddyluniwn ar yr amgylchedd, drwy eu hadolygu, eu gwella, a pharhau i hyrwyddo gwelliannau i’r adeiladau hyn, sef ein cymynrodd i genedlaethau’r dyfodol.
Fel practis, rydym wedi datblygu gweithdrefnau sicrwydd ansawdd sy’n briodol i’n gweithgareddau; rydym yn darparu gwasanaeth effeithlon, atebol a dibynadwy, gan gadw hyblygrwydd hefyd, fel bod modd ymateb i anghenion ein cleientiaid a gofynion eu cyweithiau.
Derbyniodd y practis Gofrestriad BS EN ISO 9001 am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 1993.
Mae Latter Davies yn ymrwymo i drin pob unigolyn: ein gweithwyr, ceiswyr swyddi, cleientiaid, cwsmeriaid a chyflenwyr, heb unrhyw wahaniaethu ar sail hil, rhyw, beichiogrwydd a mamolaeth, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, newid rhyw, anabledd, crefydd neu gred, oedran na thueddfryd rhywiol.
Rydym yn sicrhau amgylchedd waith iach a diogel, ac yn ymrwymo i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles ein staff.