Yr Eglwys Newydd, Caerdydd

Dyma gywaith i lwyr adnewyddu tŷ tref Fictoraidd oedd wedi ei esgeuluso. Cedwir yr ystafelloedd derbyn gwreiddiol ar y gwastadlawr. Ychwanegwyd estyniad unllawr yn y cefn sy’n cynnwys cegin, bar brecwast ac ystafell aml-bwrpas. Ychwanegwyd trydydd llawr yn cynnwys dwy lofft, drwy addasu gwagle’r to. Ymestynnwyd crib y to tuag ymlaen a thuag yn ôl gan osod ffenestri crib, tair onglog, sydd yn cadw cymeriad gwreiddiol y tŷ.

Roedd y gwaith yn cynnwys atgyweirio strwythurol sylweddol, adnewyddu’r systemau trydan a gwresogi, gosod ffenestri a drysau allanol newydd, ail doi, ail blastro’r tu mewn drwyddo ac ail rendro’r tu allan, atgyweirio manylion traddodiadol gwaith coed a phlastr Fictoraidd a theils y llawr y tu mewn.

Mae ffurf nodedig y to dros y gegin yn deillio o’r awydd i ddal cymaint o olau dydd â phosib, gan fod y gegin yng nghysgod y tŷ ar ei ochr ogleddol.

Mae’r cywaith hwn yn un o sawl enghraifft o waith adnewyddu ac ailwampio tai cyfnod. Dengys ein gallu i greu addasiadau ar gyfer ffordd gyfoes o fyw gan barchu arddull cyfnod y tŷ, gwneud y mwyaf o botensial hen dai ac ailddarganfod eu gwir gymeriad, hyn oll drwy ddulliau cost effeithiol.