Adeiladau Rhestredig, Preswyl

Mae Latter Davies yn cynnig gwasanaeth ymgynghori ar adnewyddu neu addasu adeiladau rhestredig preswyl a rhai sy’n addas i’w trawsnewid at ddefnydd preswyl. Trwy astudio nodweddion a rhinweddau adeiladau a chyd-destun eu cofrestru, byddwn yn dylunio datrysiadau creadigol a chyfoes, y gellir eu gwahaniaethu oddi wrth y gwreiddiol, ond sy’n parchu’r gwreiddiol o ran gwead, ansawdd a manylion.

Enghraifft o hyn yw ein cyngor a’n gwaith ar nifer o dai yng Ngardd-bentref Rhiwbeina, Caerdydd. Mae i’r ardd-bentref tua 180 o dai wedi eu rhestru fel adeiladau hanesyddol o bwys, yn dyddio o 1913. Mae hi hefyd yn un o ardaloedd cadwraeth y ddinas. Mae’r arddull “Arts and Crafts” yn nodweddiadol o arddull mudiad gardd-bentrefi’r cyfnod, gyda nifer cyfyngedig o nodweddion dylunio a defnyddiau dethol yn creu cytgord.

Mae Latter Davies wedi dylunio addasiadau sy’n creu lleoedd byw cyfoes, o fewn canllawiau cadwraeth, ac yn ategu ethos gwreiddiol mudiad y gardd-bentrefi. Roedd Parker ac Unwin, prif hyrwyddwyr y mudiad, yn credu y dylai’r trigolion fwynhau golygfa dda o’u gerddi o’r tŷ, er mwyn cael eu hesmwytho gan dreigl y tymhorau, a’i bod yn hanfodol fod y tai drwyddynt yn derbyn digon o olau haul. Mae rhai o’r estyniadau, ynghyd â nodweddion sydd yn gwneud cymeriad gardd-bentref Rhiwbeina mor neilltuol, yn cael eu portreadu yma.