Sain Hilari, Bro Morgannwg

Roedd y safle yn cynnwys dau fwthyn cysylltiedig, a fu yn rhan o hen ystâd wledig. Roeddent yn rhestredig: Gradd II, a’u lleoliad yn sensitif, mewn ardal gadwraeth ger eglwys y plwyf. Roedd y bythynnod o batrwm dau-lan dau-i-lawr, ac i’w haddasu yn un tŷ i deulu o chwech. I gyflawni hyn roedd angen estyniad i gynnwys ystafell gerdd, llofft, ymolchfa ac ystafell aml-bwrpas.

Roedd angen gwarchod ffurf cryf a chywir yr adeilad drwy sicrhau na fyddai’r estyniad yn cystadlu ag ef am sylw. Cafodd y bythynnod eu hailwampio oddi mewn ac ychwanegwyd estyniad unllawr i lenwi rhwng yr adeilad a’r wal derfyn igam-ogam.

Mae’r estyniad yn celu y tu ôl i wal barapet, a ddyluniwyd i edrych fel hen wal gardd wedi’i thrwsio, gydag agennau ac agoriadau afreolaidd, wedi’u llenwi â ffenestri a drysau. Crëwyd cyswllt gwan rhwng yr hen a’r newydd drwy gyfrwng cilfach ddofn ag iddi banelau gwydr. Gan nad yw’r estyniad yn cystadlu â’r adeilad gwreiddiol, mae eglurdeb ac urddas y gwreiddiol wedi ei warchod.

Mae gan yr asgell newydd do gwastad wedi’i orchuddio â briweg, rhag tarfu ar yr olygfa werdd o dŵr yr eglwys.