Henllys, Sir Ddinbych

Roedd y tŷ, bwthyn cipar o’r ddeunawfed ganrif, yn sefyll yn uchel ar lethr a chanddo olygfa eang dros Ddyffryn Clwyd, o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae’r dyluniad yn ymateb i’r cyd-destun hwn, heb erydu gwead gwledig y tirlun.

Mae’r estyniad yn cynnwys ystafell fwyta/cegin/lolfa agored eang a dwy ystafell wely uwchlaw. Mae cynllun agored y llawr isaf yn gwrthgyferbynnu â’r bwthyn caeëdig â’i aml raniadau. Mae’r asgell newydd ddeulawr yn gyfochrog â’r tŷ gwreiddiol, ond wedi ei gosod o’r neilltu, gyda darn cyswllt â tho is tua’r cefn. Mae rhan unllawr â tho gwastad yn llenwi rhwng yr hen a’r newydd. Mae trawstoriad yr adeiladwaith deulawr yn dilyn un yr hen fwthyn, gyda bondo a chrib y to yn cyfunioni.

Mae’r talcen newydd wedi ei wynebu â gwydr, sy’n rhoi golygfa eang o’r ystafell fyw a’r llofft. Ceir brise soleil o bren cedrwydd coch ar du allan y gwydr, y lliw a’r gwead yn asio gyda’r tirlun, ac yn cysgodi’r ystafelloedd rhag heulwen rhy ddisglair a chynhesu gormodol.

Aildrefnwyd rhan helaeth o du mewn y bwthyn gwreiddiol. Agorwyd y gofod yn ei ganol gan greu neuadd ddeulawr gyda grisiau ac oriel.