Vivian Court, Caerdydd

Cywaith llenwi trefol: fflatiau, i gymryd lle pâr o dai trillawr adfeiliedig yng nghanol rhes o dai Fictoraidd.

Mae’r adeilad yn cynnwys chwe fflat ar gyfer trigolion ag anghenion arbennig a’u gofalwyr, gyda dwy fflat ar y gwastadlawr ar gyfer trigolion ag anabledd corfforol.

Mae’r adeilad yn dilyn ôl troed y tai blaenorol a’u proffil: to mansard ar y rhan flaen drillawr, ac atodiad deulawr y tu cefn.

Mae’r dyluniad yn defnyddio cydrannau, elfennau a nodweddion cyfoes, ond yn cadw at raddfa a chymesuredd yr hen adeiladwaith yn y rhes o boptu iddo. Drwy wneud hyn mae’n creu dyluniad modern ond addas i’w gyd-destun, sy’n helpu i adfer naws y stryd wedi cyfnod o ddirywiad.