Uned Gychwyn Busnes, Powys

Uned fasnachol, yn addas ar gyfer y rhai sy’n ystyried cychwyn busnes prosesu bwyd ar barc menter yn y Canolbarth.

Mae’r dyluniad yn dilyn canllawiau ar gyfer y parc. Y bwriad oedd creu cyfanwaith â manylion yn cydweddu. Roedd yr uned yn cynnwys nodweddion penodol i’r llain tir a’i gyd-destun arbennig, hyn i gyd gan gadw oddi mewn i derfynau costau llym.