Canolfan y Wallich, Caerdydd

Swyddfeydd, pencadlys ac adnoddau cynadledda i elusen y Wallich, yn agos at ganol dinas Caerdydd. (Gweler hefyd yr adran Hanesyddol a Defnydd Newydd)

Mae’r dyluniad yn creu dros 900 medr sgwâr o arwynebedd llawr oddi mewn i gragen hanesyddol hen eglwys. Mae’n adeilad oddi mewn i adeilad, gyda’i bedwar llawr mewn strwythur mezzanine. Yn yr adnodd gynadledda ar y gwastadlawr ceir ystafelloedd o feintiau gwahanol y gellir eu haddasu ar gyfer 100 o bobl, ynghyd â chegin, ffreutur a llyfrgell. Ar loriau gwastad 2 a 3 ceir swyddfeydd cynllun agored, yn amgylchynu rhes o swyddfeydd cellog. Mae’r peirianwaith gwresogi ar blatfform ar y lefel uchaf.

Mae manyleb y swyddfeydd yn cyrraedd gofynion uchel swyddfeydd masnachol. Mae’r strwythur mezzanine yn gyfoes, ac yn gweddu i’r defnydd newydd, wedi ei wynebu â phren ffawydd – yn wahanol iawn i’r gragen o ran arddull a defnydd.

Roedd amgáu swyddfa gyfoes o fewn cragen adeilad rhestredig yr hen eglwys yn gosod heriau arbennig, yn eu mysg yr angen i’w hawyru. Ni ellid cael aer drwy hen ffenestri gwydr lliw’r eglwys. Er mwyn cyflenwi llif aer cyfforddus, darperir awyru mecanyddol. Lleolwyd delltiau awyru allanol yn uchel ar dalcen yr hen eglwys: yr unig fan derbyniol o ran cael caniatâd adeilad rhestredig.