Trawsnewid hen feudy yn fwthyn ymddeol i deulu ffermwr.
Gwnaethpwyd hyn yn effeithlon, gan addasu cyn lleied â phosib ar y strwythur gwreiddiol.
Roedd uchder a gogwydd serth y to yn caniatáu digon o le i osod llofft ynddo, gan greu bwthyn tair llofft. Cafodd estyniadau diangen o’r ugeinfed ganrif eu dymchwel. Cadwyd agoriadau gwreiddiol i wneud drysau a ffenestri. Ffurfiwyd agennau gwydr cul yn y muriau allanol: cyfeiriad at ddull o awyru mewn adeiladau amaethyddol. Cawsant eu llenwi â gwydr er mwyn cael llif golau gwell i mewn i’r adeilad.
Mae’r adeilad yn sefyll yn rhwydd ymysg y casgliad o adeiladau eraill o amgylch y buarth a’r prif dŷ, yn encilio mewn lloc tawel.
Roedd y cywaith yn hynod o gost-effeithiol; hwn oedd y cywaith tŷ annedd lleiaf drud yn nhermau cost y medr sgwâr o blith yr holl gyweithiau a gyflawnwyd gan y practis.