Cartref gofal â 76 o lofftydd ar safle serth, sy’n nodweddiadol o’i leoliad yng nghymoedd y de.
Mae’r dyluniad, ar bedwar llawr, yn ymdopi â newid uchder o dros ddau lawr a hanner rhwng tu blaen a chefn y safle.
Trwy ymateb gofalus i newidiadau uchder a graddfeydd y llethr o gwmpas y safle, mae’r cynllun yn cymryd ei le ymysg tai rhes deulawr a thrillawr gerllaw.
Mae amlinell a gwedd yr adeilad yn cael ei ysgafnu drwy gyfrwng drychiadau yn camu’n ôl mewn rhai mannau ar y llawr uchaf. Hefyd, amrywiwyd ffurfiau’r toeau – rhai ar ongl, rhai yn wastad â pharapet. Defnyddir bric a rendr gwyn mewn ffordd ddethol i leihau graddfa’r adeilad, ac i roi mwy o eglurdeb i’w ffurf.