Roedd y cywaith yn darparu adnoddau ategol i eglwys, mewn dwy elfen: adnewyddu adeilad pen rhes – hen siop, y drws nesaf i’r eglwys; ac amgáu ale ochr, oedd rhwng yr hen siop a’r eglwys.
Atgyweiriwyd yr hen siop i ddarparu siop lyfrau Gristnogol a chaffe, gyda swyddfa weinyddol i’r eglwys uwchben. Mae’r bwlch oedd rhwng y siop a’r eglwys wedi ei amgáu, gan greu cyntedd: man cyfarfod eang i’r eglwyswyr, a lle dros ben ar gyfer y caffe.
Mae tu blaen y siop wedi ei saernïo i bwysleisio’r cysylltiad rhwng y siop lyfrau a’r eglwys. Mae wyneb y siop a’r cyntedd yn cyfuno, gan ogwyddo i mewn o ymyl y palmant, a’r fascia yn plygu tuag allan, gan ffurfio nenlen bigfain yn cysylltu â’r eglwys. Fe’u hwynebwyd â chopr gwyrdd, cyfeiriad at y cwpolau o hen gopr ar dyrau’r eglwys.
Mae dyluniad y cyntedd yn creu synnwyr o ofod ehangach oddi mewn i’r ale gul. Mae cyfres o ffenestri to yn y nenfwd uchel ar ogwydd, a’r muriau gwydr ar bob pen, yn rhoi digonedd o olau dydd. Mae gwedd finimol y grisiau yn lleihau eu heffaith ar y gofod. Atgyweiriwyd mur carreg gwreiddiol ochr yr eglwys, gan greu nodwedd rymus.