Rydym wedi gweithio ar amrywiol adeiladau mewn sawl cywaith i adnewyddu ac adfywio canol trefi.
Mae ein gwaith yn aml wedi ymestyn y tu hwnt i ofynion elfennol y mentrau a gyllidir gan grantiau. Mae’r mentrau hyn yn dueddol o dargedu llenwi llawr stryd yr adeiladau, ac adnewyddu’r wynebau i geisio hybu adfywiad yn y stryd. Yn ogystal â hynny, byddwn ni yn ymdrechu i ddod o hyd i ddefnydd cynaliadwy ar gyfer holl loriau’r adeiladau.
Mae ein gwaith yn cynnwys adnewyddu pum llawr o adeilad Fictoraidd yng nghanol tref; ceir swyddfeydd ar yr islawr a’r gwastadlawr, a fflatiau ar y tri llawr uwchben.
Dangosir eiddo yng Nghaernarfon yma, yn cynnwys rhai adeiladau rhestredig: ar y Maes, a chyferbyn â’r castell, sy’n Safle Treftadaeth Byd.