Comisiynwyd y dyluniad gan Scope, yr elusen sydd yn darparu ar gyfer pobl â pharlys yr ymennydd, i gymryd lle hen adnoddau.
Mae’r dyluniad yn darparu wyth o fflatiau un llofft i bobl â pharlys yr ymennydd, wedi eu cynllunio i’w hannog i fyw yn annibynnol a hwyluso hynny. Cynlluniwyd y fflatiau i gydymffurfio â safonau gofod cadeiriau olwyn, gyda ffitiadau o uchder hyblyg yn y ceginau a’r ymolchfeydd. Ceir cyfleusterau coginio, ffreutur a lolfa ar y cyd. Mae yma hefyd lolfa ar gyfer gofalwyr, a llofftydd iddynt ar y llawr cyntaf.
Mae’r dyluniad yn ymateb i gyd-destun y safle. Mae’r ffurf a’r defnyddiau yn adlewyrchu dehongliad cyfoes o arddull Arts and Crafts, sydd yn cydweddu ag arddull a chyfnod y tai sengl mawr yn y gymdogaeth.
Mae’r rhan fwyaf o ystafelloedd y trigolion yn wynebu’r de, o gwmpas cwrt agored sy’n wynebu’r un cyfeiriad. Mae dylanwad y coed aeddfed sydd dan warchodaeth hefyd ar y cynllun, gydag ystafelloedd cymunedol yn y pen gorllewinol mewn cynllun cilgant o gylch pinwydden ddu aeddfed, sy’n ffurfio llewen yn yr ardd. Does dim ystafelloedd yn wynebu’r gogledd oherwydd agosrwydd tai preifat yno; cyntedd yn bennaf sydd ar yr ochr ogleddol.