Mae’r cwmni wedi dylunio addasiadau a gwelliannau mewn dwy ganolfan gofal canser Marie Curie sy’n darparu gofal lliniarol; yn Woolton ger Lerpwl ac ym Mhenarth ger Caerdydd.
Yng nghanolfan Woolton, Lerpwl, dyluniwyd addasiadau a ffreutur ychwanegol fel estyniad i adeilad ffurfiol ei siâp. Mae ffurf geometrig gref i’r estyniad, yn deillio o onglau’r ddau hecsagon cydgysylltiol sy’n sail i’r adeilad gwreiddiol, ond heb ddilyn hyn yn wasaidd. Mae iddo wyneb o gopr, gyda phatrwm paneli sy’n ymddangos yn afreolaidd, ac felly yn creu cyferbyniad a gwead – ychwanegiad bywiog a hyderus i adeilad ffurfiol.
Bu dau gywaith ym Mhenarth: estyniad llawr cyntaf i greu uned letya dros nos i deuluoedd a chyfeillion cleifion, ac addasu capel i ddarparu ystafell aml ffydd.
Dyluniwyd yr estyniad i’r uned deuluol i asio yn ddi-dor â’r adeilad gwreiddiol. Roedd angen i holl adnoddau’r ganolfan fod yn weithredol drwy gydol yr adeiladu. Roedd gofyn am deilwrio manylion y dyluniad a gweinyddiaeth y cytundeb adeiladu gan roi sylw dyledus i leoliad y gwaith, yn union ger prif fynedfa’r ganolfan ac uwchben y brif gegin a’r ffreutur – gyda’r nod o amharu cyn lleied â phosib ar y cleifion a’u hymwelwyr.