Lleolir ein practis yng Nghaerdydd; fe’i sefydlwyd ym 1985 a’i ailenwi yn Latter Davies yn 2004.
Mae gennym brofiad helaeth a chydnabyddedig o ystod eang o wahanol fathau o adeiladau a chyweithiau o amrywiol feintiau, a hynny dros ardal helaeth o’r DG.
Ein nod yw darparu gwasanaeth proffesiynol dychmygus, sy’n ymateb i anghenion a dyheadau pob cleient, waeth beth yw maint neu gymhlethdod y cywaith, ac i greu dyluniadau sydd y tu hwnt i ddisgwyliadau’r cleient. Ein hamcan yw creu datrysiadau cain ac adeiladau ymarferol, effeithlon.
Drwy ddadansoddi anghenion y cleient ac amgylchedd y safle yn fanwl a thrwyadl, ymdrechwn i greu adeiladau sy’n cynnig ymateb meddylgar a phenodol. Y nod yw i’r broses fod yn ysbrydoliaeth i’r cleient, ac i’r cynnyrch terfynol fod yn ysbrydoliaeth i’w ddefnyddwyr.
Ymdrechwn i ddylunio datrysiadau sy’n gynaliadwy o ran yr amgylchedd ac yn ariannol.
Rydym yn cynnig gwasanaeth ymgynghori, yn darparu cyngor ar ddatblygu ac adfywio. Darparwyd y gwasanaeth pensaernïol cyflawn gennym ar gyfer gwireddu’r rhan fwyaf o’r cyweithiau sydd wedi eu hadeiladu.
Rydym wedi gweithio gyda llawer o wahanol gleientiaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat, elusennol a chorfforaethol, gan greu datrysiadau gwahanol iawn i’w gilydd. Mae’n hadeiladau yn gwasanaethu
anghenion pobl: unigolion, mudiadau, cyfundrefnau a chymunedau. Mae amrywiaeth ein hymateb yn ddathliad o bob cleient unigryw, ac o amrywiaeth yr anghenion a’r dyheadau a gyflwynant inni.
Mae gennym brofiad eang ym maes addasu ac adnewyddu adeiladau hanesyddol a rhai rhestredig, gan roi bywyd newydd a defnyddiol iddynt. Mae ein gwaith dylunio yn arddangos ein dealltwriaeth o’r cyddestun hanesyddol a’n parch tuag ato, gan ddehongli hyn mewn modd cyfoes ac ailddarganfod defnydd blaengar i’r adeiladau.
Mae ein gwaith yn y sectorau gofal iechyd ac anghenion arbennig yn cynnwys sawl cywaith adnewyddu ac aildrefnu adeiladau tra bo’r preswylwyr yn parhau i fyw ynddynt. Mae’r dulliau dylunio, manylebu a gweinyddu cytundebol manwl y mae cyweithiau o’r fath yn eu hawlio yn arwydd o’r ddisgyblaeth yr ydym yn ymfalchïo ynddi yn ein gwaith drwyddo draw.