Llwyr atgyweirio ffermdy o ddechrau’r ugeinfed ganrif, heb unrhyw newidiadau blaenorol iddo, oedd wedi cadw nodweddion ffermdy traddodiadol gan gynnwys llaethdy yn y seler, cegin gefn elfennol â phopty mawr, a llofftydd mewn asgell ar wahân i’r morwynion.
Roedd galw am adnewyddu’r tŷ, cywiro diffygion strwythurol ac ailwampio’r cynllun mewnol i greu tŷ a fyddai’n encil yn y wlad i deulu estynedig. Roedd gofyn manteisio yn llawn ar y gofod oddi mewn i amlen yr adeilad gwreiddiol, gan ymestyn cyn lleied â phosib arno i fod yn gost effeithiol.
Drwy ychwanegu lobi cefn bychan, roedd modd agor cyntedd drwy’r tŷ i roi mynediad i holl ystafelloedd y gwastadlawr. Yr unig estyniad arall i’r tŷ gwreiddiol oedd ystafell haul o ffrâm dderw. Rhoddodd hyn ogwydd newydd i’r ystafelloedd byw tuag at y de a’r heulwen. Cafodd y seler ei hadennill, ac addaswyd gwagle’r to yn yr asgell gefn i fod yn llofft ychwanegol.
Cadwyd y nodweddion gwreiddiol drwy’r tŷ, gan arbed ac ailddefnyddio defnyddiau gwreiddiol lle bu modd. Roedd y ffenestri gwreiddiol yn nodwedd amlwg o wedd y tŷ: atgyweiriwyd yr is fframiau pren ac ailosod ffenestri rhwyll dur newydd o broffil tebyg, ond ag unedau gwydr dwbl cul i gwrdd â gofynion diweddaraf ynysu gwres.