Atgyweirio pâr o dai tref Fictoraidd yn llwyr, a’u haddasu yn fewnol i ddarparu hostel ar gyfer teuluoedd digartref.
Mae’r adeilad, a fu gynt yn ddau dŷ mawr, ar brif ffordd i mewn i ganol dinas Caerdydd. Cyn yr addasiad bu’n gartref gofal am flynyddoedd. Roedd aml i addasiad, ac estyniadau tameidiog, wedi sarnu ei olwg a’i gymeriad.
Mae’r addasiad yn cynnwys 22 o ystafelloedd byw a chysgu, pob un â chegin fechan a lle bwyta, ac ymolchfa en-suite. Mae yna geginau ehangach ar y cyd ac ystafelloedd cwrdd yn ogystal. Mewn sawl achos, mae ystafell i deulu cyfan yn cael ei chynnwys oddi mewn i un o ystafelloedd mawr yr hen dŷ. Llwyddwyd i gadw argraff yr ystafelloedd Fictoraidd eang â’u nenfydau uchel (ar y gwastadlawr roedd y nenfydau tua 3.5m uwch ben). Cafodd yr ymolchfeydd eu creu ar ffurf blychau â nenfydau o uchder safonol modern (2.3m) yng nghornel yr ystafell, felly mae’r nenfydau gwreiddiol â’u cornisiau a’u borderi addurniadol i’w gweld yn eu cyfanrwydd. Fe’u cadwyd a’u hadnewyddu lle canfuwyd nhw.