Datblygu ‘teulu’ o unedau masnachol, yn addas i’w gosod ar barciau busnes yng nghefn gwlad Cymru.
Mae’r cysyniad dylunio yn caniatáu unedau o feintiau amrywiol. Mae’n defnyddio cydrannau safonol, ond yn eu cyfuno, gan greu nodweddion gweledol cryf sy’n gyffredin iddynt. Mae’r nodweddion hyn yn ymateb i dirlun a hinsawdd Cymru.
Mae’r bondo llydan yn ychwanegu at y pwyslais llorweddol. Mae nodwedd y bondo, a chanopi’r brif fynedfa yn angori’r adeilad i’w safle, ac yn rhoi digonedd o gysgod.
Mae dewis o liwiau amrywiol yn adlewyrchu arlliwiau yn naeareg a thirlun gwahanol ranbarthau o Gymru.