Rydym wedi ymgymryd ag amryw o astudiaethau cynllunio sydd â golwg ar hybu adfywiad mewn adwerthu yn rhai o drefi marchnad Cymru a’r gororau.
Mae newid ym mhatrwm defnydd canol trefi, ynghyd â deddfau trethu, cynllunio ac adeiladu yn rhoi pwysau dirfawr ar adeiladwaith a cyfansoddiad trefi marchnad. Mae hyn yn arbennig o wir o ystyried gofynion cwmnïau archfarchnadoedd, a’r angen am fynediad a mannau parcio moduron sy’n dod yn eu sgil.
Wrth gyflwyno ein hargymhellion ar gyfer datblygiadau newydd, byddwn yn ystyried ein hastudiaethau o gynlluniau hanesyddol y trefi, y strydlun a phatrymau datblygu, gan amcanu tuag at wau elfennau newydd i mewn i’r darlun, er mwyn trwsio’r treflun toredig.